A Positive Report from Estyn on the Greater Gwent Adult Learning Partnership
The Greater Gwent Adult Learning Partnership, which is led by Coleg Gwent has received a glowing commendation following a review conducted by Estyn, Wales' education inspectorate. The report highlights the transformative impact of the partnership's work on learners and communities alike.
The Greater Gwent Adult Learning Partnership is a well-established collaboration comprising five local authority core providers, (Aneurin Leisure (Blaenau Gwent), Caerphilly, Monmouthshire, Newport, Torfaen) with the college taking a strategic leadership role. The partnership offers a range of courses and clubs tailored to meet the diverse needs of its communities, including essential skills, independent living skills, English for speakers of other languages (ESOL), ICT, employability and leisure and wellbeing courses.
During the inspection process, Estyn inspectors evaluate every aspect of the partnership's operations, as well as meeting with key stakeholders including the chair of the partnership, senior leaders, tutors and, most importantly, the learners.
By visiting sessions, observing interactions, and reviewing documentation, the inspectors gained a complete understanding of the partnership's strengths and areas for development.
The key highlights identified within the report were:
A commitment to empowering learners
One of the standout features of the partnership highlighted in the report is its commitment to learner empowerment. Learners spoke passionately about the positive impact of the partnership on their lives, saying that they would be “lost without the centre” which has become a lifeline after challenging life circumstances. Learners in digital skills classes are particularly appreciative of learning about cyber security and value learning how to keep themselves safe when browsing, banking, and shopping online.
An inclusive and supportive learning experience
Estyn's report praises the tutors’ dedication to creating inclusive learning environments where every individual feels valued and supported. The report stated that “tutors create warm and welcoming environments that learners feel comfortable entering.”
The partnership is noted as flexible and responsive, delivering programmes at times and in venues to suit learner needs, with well-structured and person-centred plans. Tutors work with learners to create meaningful targets such as “I am doing this to achieve my long-term goal of becoming a midwife” or “I am supporting my son to achieve GCSE maths.” The partnership's emphasis on mental health and well-being also resonated deeply with inspectors, who noted the tangible benefits experienced by learners. To support learners’ mental health – 17 tutors across the partnership successfully achieved the L2 Accredited Mental Health First Aid course, seven of these progressed to the L3 Award in Supervising/Leading First Aid for Mental Health. These courses enabled staff to have a better understanding of mental health conditions and to signpost learners to appropriate organisation.
One learner said: “I wouldn’t be able to manage without this support” and “It’s very important as it’s the one day of the week when we know where we are.”
A culture of continuous improvement
Estyn's report also commended the partnership's robust self-evaluation processes and quality improvement planning. By carefully analysing learner assessment data, monitoring progress, and asking for feedback, the partnership ensures that its programmes remain relevant to changing needs. The observation activities also support the partnership in monitoring the quality of delivery, identifying good practices, and developing those staff in need of support. Finally, the commitment to continuous improvement is reflected in the positive outcomes achieved by learners across a wide range of programmes.
As we celebrate the achievements of the Greater Gwent Adult Learning Partnership highlighted in Estyn's report, we acknowledge the hard work and dedication of everyone involved in the partnership.
At Coleg Gwent, we are set to build upon the successes and will continue to help in making a meaningful difference in the lives of learners and communities across Greater Gwent.
Cafodd Partneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf, a arweinir gan Coleg Gwent, ei chanmol yn arw yn dilyn adolygiad a gynhaliwyd gan Estyn, sef arolygiaeth addysg Cymru. Mae'r adroddiad yn amlygu effaith drawsnewidiol gwaith y bartneriaeth ar ddysgwyr a chymunedau fel ei gilydd.
Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf yn gydweithrediad sefydledig sydd yn cynnwys pum darparwr craidd awdurdodol lleol, (Aneurin Leisure (Blaenau Gwent), Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen), gyda’r coleg yn ymgymryd â rôl arweinyddiaeth strategol. Mae'r bartneriaeth yn cynnig ystod o gyrsiau a chlybiau teilwredig i ddiwallu anghenion amrywiol ei chymunedau, gan gynnwys sgiliau hanfodol, sgiliau byw'n annibynnol, Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill (SSIE), TGCh, cyflogadwyedd a chyrsiau hamdden a llesiant.
Yn ystod y broses arolygu, mae arolygwyr Estyn yn arolygu pob agwedd ar weithrediadau'r bartneriaeth, yn ogystal â chyfarfod â rhanddeiliaid allweddol sydd yn cynnwys cadeirydd y bartneriaeth, yr uwch arweinwyr, tiwtoriaid ac, yn bwysicaf oll, y dysgwyr.
Trwy ymweld â sesiynau, arsylwi ar ryngweithiadau ac adolygu dogfennaeth, enillodd yr arolygwyr ddealltwriaeth gyflawn o gryfderau'r bartneriaeth a'r meysydd y gellir eu datblygu.
Uchafbwyntiau allweddol yr adroddiad oedd:
Ymrwymiad i rymuso dysgwyr
Un o nodweddion amlwg y bartneriaeth a amlygwyd yn yr adroddiad yw ei hymrwymiad i rymuso dysgwyr. Soniodd dysgwyr yn angerddol am effaith gadarnhaol y bartneriaeth ar eu bywydau, gan ddweud y byddent “ar goll heb y ganolfan” sydd wedi dod yn rhaff achub ar ôl amgylchiadau bywyd heriol. Mae dysgwyr mewn dosbarthiadau sgiliau digidol yn arbennig o werthfawrogol o ddysgu am seiberddiogelwch ac maent yn gwerthfawrogi dysgu am sut i gadw eu hunain yn ddiogel wrth bori, bancio a siopa ar-lein.
Profiad dysgu sydd yn gynhwysol ac yn gefnogol
Mae adroddiad Estyn yn canmol ymroddiad y tiwtoriaid i feithrin amgylcheddau dysgu cynhwysol lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i gefnogi. Datganodd yr adroddiad bod tiwtoriaid “yn creu amgylcheddau cynnes a chroesawgar y mae dysgwyr yn teimlo’n gyfforddus yn eu cyrchu.”
Nodir bod y bartneriaeth yn hyblyg ac yn ymatebol, sydd yn cyflwyno rhaglenni ar amseroedd ac mewn lleoliadau sydd yn gweddu i anghenion dysgwyr, gyda chynlluniau sydd wedi'u strwythuro'n dda ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae tiwtoriaid yn gweithio gyda dysgwyr i greu targedau ystyrlon megis: “Rydw i’n gwneud hyn i gyflawni fy nod hirdymor o ddod yn fydwraig” neu “Rydw i’n cefnogi fy mab i gyflawni TGAU mathemateg.” Roedd pwyslais y bartneriaeth ar iechyd a llesiant meddyliol hefyd wedi atseinio'n ddwfn gyda’r arolygwyr a nododd y manteision diriaethol a brofir gan ddysgwyr. Er mwyn cefnogi iechyd meddwl dysgwyr, llwyddodd 17 tiwtor ar draws y bartneriaeth i gyflawni’r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Achrededig L2, ac aeth saith o'r rhain ymlaen i Ddyfarniad L3 mewn Goruchwylio/Arwain Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl. Fe wnaeth y cyrsiau hyn alluogi staff i ennill gwell ddealltwriaeth o gyflyrau iechyd meddwl ac i gyfeirio dysgwyr at sefydliadau priodol.
Meddai un dysgwr: “Fyddwn i ddim yn gallu ymdopi heb y gefnogaeth hon” ac “Mae mor bwysig gan mai dyma’r unig ddiwrnod o’r wythnos pan rydyn ni’n gwybod lle rydyn ni.”
Diwylliant o welliant parhaus
Bu adroddiad Estyn hefyd yn canmol prosesau hunan-werthuso cadarn a chynlluniau gwella ansawdd y bartneriaeth. Trwy ddadansoddi data asesu dysgwyr yn ofalus, monitro cynnydd, a gofyn am adborth, mae'r bartneriaeth yn sicrhau bod ei rhaglenni'n parhau i fod yn berthnasol i anghenion newidiol. Mae'r gweithgareddau arsylwi hefyd yn cefnogi'r bartneriaeth gyda monitro ansawdd y ddarpariaeth, nodi arferion da a datblygu'r aelodau o staff y mae angen cymorth arnynt. Yn olaf, adlewyrchir yr ymrwymiad i welliant parhaus yn y canlyniadau cadarnhaol a gyflawnir gan ddysgwyr ar draws ystod eang o raglenni.
Wrth i ni ddathlu cyflawniadau Partneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf a amlygwyd yn adroddiad Estyn, cydnabyddwn waith caled ac ymroddiad pawb sydd yn ymwneud â'r bartneriaeth.
Yn Coleg Gwent, rydym ni ar y trywydd i adeiladu ar y llwyddiannau a byddwn yn parhau i helpu i wneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau dysgwyr a chymunedau ledled Gwent Fwyaf.